Prosiect Gwin Newydd yn Nolgellau
New Wine Project in Dolgellau
|
Hen siop win Dolgellau/Old wine shop Dolgellau |
Sut well i ddechrau blog
gwin nac efo tŷ blasu newydd sbon Dylanwad? Unig broblem di - newydd brynu hen siop gwerthu gwin Threshers da ni, a mae llond
trol o waith i neud yna, a llond sied o arian i wario. Felly,
cadw blog, gan ddechrau ar y diwrnod cyntaf - sef y diwrnod da ni'n cael goriad i'r drws. Ymunwch a ni i ddilyn helyntion, a rhannu ein profiadau (edrychwn ymlaen i sylwadau a mae croeso i chi wneud unrhyw awgrymiadau!) tan yr agoriad. Gobeithio cawn weld trawsnewid o hen siop gwerthu gwin, i fan lle cewch flasu a mwynhau gwin efo ni - da ni di cynhyrfu'n lan!
We couldn't think of anything to write about in a blog that
was linked to wine but wasn't already happening - so we bought the old Threshers wine shop in
Dolgellau. You can now follow our (probably slow) progress through dry rot, wood worm, rising damp and bulging walls, to the opening of a wine tasting house in which we can indulge and share our passion for wine with you. This blog starts on the completion date for buying the
building, but more importantly, on Llin's father's birthday. Penblwydd Hapus Dad! Bring us luck or there's no more free samples for you!
Pob lwc i chi gyda'r fenter, mae'n swnio fel syniad gwych. Licio'r blog yn fawr hefyd ac yn edrych ymlaen i glywed hynt a helynt y prosiect.
ReplyDeletePob lwc i chi. Syniad gwych rhannu profiadau'r broses o drawsnewid siop drwy eich blog. Mi ychwanegaf y blog ar restr blogiau Cymraeg dw i ag eraill wrthi'n roi at ei gilydd.
ReplyDeleteDiolch yn fawr. Bydd hyna'n gret.
DeleteGood luck! Looking forward to seeing a variety from near and far :)
ReplyDeletePob lwc i chi. Edrych ymlaen i fod yn gwsmer yn y tŷ blasu!
ReplyDeleteDiolch Cat. Efallai bydd cyfle i arbrofi cyn!?
ReplyDeleteUh oh!!! Mae hyn yn mynd i droi'n fler!!!! ha
ReplyDeletePob lwc!!! :-)