Saturday 7 July 2012

Y Gwin Cyntaf - New Arrival

Gwin Cyntaf y Selar/Cellar's First Wine Delivery


Wel, dyma dreialu'r selar newydd, ia, heb ddechrau ar y gwaith! Un o'r pethau oedd Dylan yn diflasu efo oedd straffaglu gyda bocsys gwin a'u dadlwytho a cludo i wahanol lefydd yn Dylanwad. Yn wir, dwi di dechra cael llond bol o focsys gwin yn cymeryd drosodd ym mhobman, dim ond mater o amser cyn oedd y mewnlifiad yn cyrraedd ein stafell gysgu.

Not sure we should be doing this before building work but here we go, the first delivery to our new cellar! Thank goodness for a quick and easy way of getting the wine into its storage after so long of struggling to hurriedly get it off a lorry and into various corners in Dylanwad.







Fel hyn mae'r gwin yn cyrraedd pob tro, a mae hwn o Sbaen tro yma. Dyn bach y lori yn edrych yn hurt arnom. Pam bo ni o hyd yn galw dynion yn 'fach' pob tro yn Gymraeg? Ni genod sy'n tueddu neud?

This is the way the wine arrives each time and this time it's from Spain. I think the driver was bemused by the fuss.




O ma hyn mor gyffroes!! 'Chute' bach i saethu bocs gwin lawr i'r selar o'r stryd! Dwi yn madde i chi os oes rhywun yn meddwl bod hyn yn wir dystiolaeth bo' Dyl a fi angen mwy o liw yn ein bywydau.

A chute to slide cases of wine down to the cellar - things like this make us happy! I do believe Dylan has a spring in his step these days..




Dwi'n meddwl bod Karen yn poeni braidd, ond oedd Dyl y pen arall i'w ddal. 


I think Karen was a bit reluctant to let go but Dyl was in his cellar waiting to catch it.




A dyma ni, gwin cyntaf Dylanwad yn ei le. Mae'r Martivilli a'r Vila Corona yn edrych yn gartrefol iawn yma. Mor braf i gael digon o le sy'n addas i gadw gwin. Dros y blynyddoedd rydym wedi bod yn prynu teclynau i roi yn y sied i gadw tymheredd y gwin. Mae mor bwysig ei gadw, dim yn angenrheidiol oer, ond mwy pwysig, ar dymheredd cyson os am gadw gwin dros y tymor hir. Dim lle gwaeth na chegin sy'n poethi ac oeri fel mae'n cael defnydd.

Wrth gwrs, bydd rhaid rhoi silffoedd ac yn y blaen i mewn, ac ni fydd y bocsys yn eistedd ar y llawr, ond ar y funud, mae hyn yn gret. Yn Ffrainc, mae corneli arbennig efo cwb dan glo i gadw gwin drud. Dylan yn mynnu bod angen hyn i gadw bacha fi ffwrdd ohonno (y gwin, dim Dylan) ond hefyd yn meddwl byse'n syniad cwl i gael un yma efo llawr gwydr i'w arddangos o'r siop! Ydan ni'n mynd dros ben llestri??

Bydd y blogbost nesaf efo newyddion am ein cyfarfodydd cyntaf a dechrau'r broses o feddwl beth sy'n bosib a beth mae'r awdurdodau yn caniatau. Hefyd, dwi'n meddwl am geisio ffilmio - ar Dylan byddaf yn arbrofi wrth gwrs, y blasu gwin cyntaf yn y Ty Gwin Dylanwad.

So, the first stock of Martivilli and Vila Corona from our producers in Spain sits in a 'fit for purpose' cellar. Easy access (for those who have the keys!) and more important, at a constant temperature. We've struggled with air-conditioning units and so on in the past but you cannot replicate a cellar. The important factor is not having a fluctuating temperature, which damages the quality of wine. It's ok to keep bottles in your kitchen for the short term, but for long-term storage it needs to have settled conditions - bit like me!

The cellar will need racking and the boxes will be raised off the floor. It would be nice to think of having a sort of locked 'cage' where we keep the special wines like the ones you see in the French 'caves'. We even thought in a flight of fantasy of a glass floor looking down onto it?? Well, we can dream...

Our next blog will have news of our first meetings and in the near future we are going to try a bit of filming - how adventurous - the first tasting in the Dylanwad Tasting House.