Sunday 20 October 2013

Llyfr Bwyd a Gwin/Food and Wine Book Dylanwad Da

Helo Eto! Back Again!

Wel mae hi di bod yn dawel yma yn tydi! Beth ar y ddaear maen nhw wedi bod yn gwneud clywaf chi'n dweud! Wel, dim llawer o symud ar yr adeilad ond llawer iawn o brosiectau eraill ac wrth gwrs, o'r Pasg tan ddiwedd Medi mae'r bwyty Dylanwad Da yn brysur iawn.

Un darn o newyddion yw ein bod wedi ysgrifennu llyfr! Llyfr Cymraeg am fwyd a gwin. Mae hanesion Dylan ynddo yn mynd i chwilio am winoedd yn Ewrop ac yn sôn am rhai o'r gwinllanoedd teuluol rydym wedi bod yn prynu gan dros y blynyddoedd. A hefyd, mae 'na ryseitiau o Ddylanwad Da. Dechreusom ysgrifennu ym mis Mawrth ac roedd angen gorffen erbyn Gorffennaf yn cynnwys tynnu lluniau. Ar ôl y profiad yma, tyfodd fy mharch at bobl sy'n ysgrifennu llyfrau yn eithriadol. Stress neu be!! Cofiaf ffrind yn mynd i gerdded y GR20 yng Nghorsica flynyddoedd yn ôl ac yn dweud dan chwerthin ei fod yn llwybr enwog am dorri priodasau. Wel, mae cyd-weithio efo gwr anghofus i ysgrifennu llyfr yn dod yn agos iawn hefyd. Peidiwch â sôn dim bo fi'n dweud!

Gwelwch y llun o'r gwahoddiad i'r lansiad yn Nolgellau, tydi Branwen o Lolfa wedi gwneud joban ffantastig? Dwi wedi plesio'n fawr efo'r clawr hefyd. Pan ofynnodd Meinir oedd syniadau gennym i'r clawr, rhaid i mi ddweud, doeddwn heb roi eiliad o ystyriaeth i'r peth (na chant a mil o bethau eraill i ddweud y gwir) ond mae clawr mor bwysig! Wel, diolch i'r tîm yn y Lolfa, mae hwnna hefyd yn edrych yn grêt. Phew!

Cynhelir yr ail lansiad yng Nghaerdydd ar y 8fed o Dachwedd yn y Clwb Cameo, Pontcanna. Bydd cyfle i griw o ffrindiau a cyn-staff yn ogystal â theulu ddod i'r un yn y de ac mae dipyn o ffrindiau sy'n trydar ar 'Yr Awr Gymraeg' am ymuno hefyd. Mae Branwen o'r Lolfa yn brysur yn llenwi ein dyddiadur efo digwyddiadau yn wahanol drefydd i hybu'r llyfr, felly amser prysur iawn ond hwyl ar y gorwel. 

Am y tro, dwi'n addo byddaf yn ôl gyda newyddion am y Tŷ Blasu Gwin yn yr wythnosau nesaf!

How quiet we have been over the summer months, I'm sure you thought we'd given up, but no, we're back! Not a lot has been happening in the wine shop (we'll get to that in the next post) and as well as the busy summer season we have had other projects to occupy our time.

One of these projects was writing a Welsh language book about food and wine. It has stories of Dylan's travels to small wineries in Europe to buy wine and recipes from our Dylanwad Da restaurant. We started writing in March and needed it to be finished by July, photographs and all. My respect for writers has grown enormously I have to say. A friend who years ago was about to go to walk the famous GR20 trail in Corsica joked about it being a marriage breaker - co-operating to write a book came close at times! But we survived! I'm sure he realises how wrong he was looking back.

Anyway, it's all very exciting, the Dolgellau launch is on the 1st November in Dylanwad Da and the Cardiff launch in the Cameo Club, Pontcanna on the 8th November. Here's the invite to the Dolgellau launch, I thought the Lolfa publishers had made a very nice job of this. As they have the book cover, which I have to admit, we hadn't given a second thought as to what it should look like. Actually  there were a million things we hadn't thought about, but the book cover is a pretty important one - Lolfa team to the rescue again! So I have been busy delivering invitations today. Very difficult because we can only accommodate about 40 people for that evening in Dylanwad but we'll also be promoting it during Dolgellau Late Night Shopping on the 28th November.

For now, I promise to be back very soon with news from the Wine Tasting House!

Dolgellau Book Launch Invitation