Thursday 2 August 2012

Llawr Cyntaf - First floor

Y Llawr Cyntaf - The First Floor


Ar ol y ffys i gyd o'r prynu mae'r darnau o ddifrif yn dechrau rwan. Cawsom ymweliad buddiol gan John Ellis o'r Parc Cenedlaethol. Mor ddiddorol i weld o a Rhys yn mynd o gwmpas eu pethau yn dyfalu beth oedd beth ac ym mle flynyddoedd yn ol. Roedd Cynnwrf mawr ar weld darn o 'Plank Muntin' ar y ffordd lawr i'r selar.  (Swnio mwy fel rhywbeth dwi'n galw Dylan pan dwi'n flin). Hen fath o wal sy'n dyddio i'r 18fed ganrif mae'n debyg!

After all of the fun of the purchase has died down, the serious work now has to begin. We had a visit from John Ellis from the National Park who was very helpful. He and Rhys wandered around picking at various bits of evidence of past usage - fascinating! They were very excited to come across some 'Plank Muntin' (which sounds more like a playground insult to me), dating back possibly to the 18th century.

Dwi am ddangos beth sydd fyny staur (neu grisiau - beth bynnag sy'n ticlo'ch bol chi) heddiw, gan ddechrau gyda stafelloedd ar y llawr cyntaf. Mae angen dychymyg yma. Stafelloedd braf golau a lloriau pren ynddynt. Roedd Dylan a minnau'n meddwl am ystafell flasu yma.

I'm going to show you the upstairs, first floor. Dylan and I think this would make a lovely tasting room. It has good light and I love the wooden floor.

Ystafell Flasu/Tasting Room

t
Ystafell Flasu/Tasting Room


Mae angen gwared o'r lle tân yn amlwg, gobeithio cael gafael yn rhywbeth mwy addas i'r adeilad. Wedyn rhoi un bwrdd hir (neu efallai dau gul?) i fedru eistedd 14 i 18 i gael sesiwn blasu gwin. Neu jest taro'r ddau air olaf na ffwrdd...na Dyl? 

Off goes the fireplace with something more in-keeping with the building replacing it hopefully. We then see one, or possibly two narrow but long tables to seat between 14 and 18 for Dylan's tutored wine tastings or simply for large groups to enjoy.

Edrych tuag at y ffordd/Road side view

Mae'r ffenestri ma'n hyfryd ac yn wreiddiol i'r adeilad, gyda'r caeadau dal yn eu lle (methu agor nhw ar y funud oherwydd paent dros y blynyddoedd). Mapiau o ardaloedd gwin ar y waliau efallai?


Maps of wine regions on the walls and photographs of vineyards/producers we buy from possibly?

Gwynebu tuag at Y Sgwar/Facing Eldon Square

These are original windows and are lovely, the shutters are still there but impossible to open at present. Below, you can see the old lean-to out of the above window. This is one of our dilemmas. We want rid of it, but we want to keep shop/seating area. But it's ugly! The park would like rid of it too and think there may have been an old courtyard there. So we need some kind of compromise that will show off the courtyard and look good but still keep our much needed retail space. We are thinking of suggesting the use glass somehow? Any comments?

Hen Lean-to
Allan o'r ail ffenest mae'r to hyll yma i'w weld. Mae problem yma gennym, oherwydd mae angen cadw gymaint o le i'r siop ac i bobl eistedd a phosib, ond da ni'n hollol gytuno a'r Parc Cenedlaethol - nai ddeud o eto - MA'N HYLL!! Roedd cwrt bach o bosib yma flynyddoedd maith yn ol, a byse'n hyfryd gwneud rhywbeth i ddangos hyn. Ond busnes sydd gennym i redeg yma, a does dim llawer o le lawr staur i wastraffu. Rydym yn meddwl am awgrymu defnyddio gwydr rhywsut? Unrhyw sylwadau?

Nenfwd/Ceiling

Gobeithio eich bod yn gallu gweld y blodyn bach ma, mae blynyddoedd o baent wedi ei guddio braidd. Dylan yn edrych yn ddigalon pan ddwedodd John Ellis byse crafu lawr i'r gwreiddiol yn neis, a gwyneb fi'n goleuo. Job fach i ti Dyl!

This little detail is a bit hidden by years of paint but it will look beautiful when Dylan has finished carefully scraping it off under my supervision. There's only four of them.


Mae ychydig mwy i ddod o'r llawr yma a mi geisiaf ei roi mewn blogbost yn y bythefnos nesaf. Dwi hefyd heb anghofio mod wedi dweud bod fideo ar ei ffordd. Dwi'n perffeithio fy sgiliau camera - ac yn hyfforddi Dylan i fod yn fideo swperstar. Ma'n dechra blino arnai'n defnyddio'r blog i brofocio fo, (wrth ei fodd go iawn dwi'n meddwl).


There's a bit more to come on the first floor and I haven't forgotten the tasting video! Just brushing up my camera skills, well, just learning camera skills from scrap and training Dylan to be a movie star. He's getting a bit tetchy about my constant references to him already. He'll get used to it bless him, he always does.