Monday 3 September 2012

Ta-ta Threshers!

Teithio Nol Trwy Amser 
Peeling off the Layers

Ar ol trafod gyda Rhys y pensaer, roedd rhaid mynd ati i drio gweld beth sydd wedi bod yma gynt. Credaf ei fod hefyd isio dechrau rheoli beth mae Dyl yn gwneud ar y safle! Yn gynnar un bore dydd sul i osgoi traffig y dref, dyma ddechrau ar dynu'r hen arwydd i fedru asesu beth sydd yna i weithio arno.

After discussions with Rhys the architect, we needed to try and find out what is hidden underneath the boarding, so that we know what we are working with - I think he can also see that Dylan is chomping at the bit and needs to be diverted from uncontrolled excavations. So, start with the signage. Early on a Sunday morning to avoid traffic, we began to tear off the layers.






Dim ond i ddarganfod arwydd arall o dan! 'Diana Wood', siop ddillad merched o'r wybodaeth sydd ar gael ar y funud. Rhywun yn cofio Diana Wood, neu wedi prynu ffroc yna?

Discovery Number 1, another sign underneath! 'Diana Wood', a ladies' clothes shop by all accounts. Anyone remember this or maybe your wardrobe was fashioned by Diana Wood purchases?





Ati wedyn i chwalu mhellach, a roedd golwg o'r hen siop.

Then we begin to reveal the older shop front.


Wrth ein boddau i ddarganfod y coed hyfryd yma wedi ei guddio ers dros 60 mlynedd mae'n debyg, ond oh, bechod y llanast sydd wedi ei wneud. Mae'n amlwg bod yr hen waith coed ma wedi ei lifio ffwrdd i fedru gwneud un ffenest fawr. Oes bosib i ni atgyfodi hon? Cawn weld.

We were thrilled to find this beautiful woodwork that has been hidden for about 60 years. A tragedy to see that it has been sawn off in order to insert a large window. There were probably three panels here originally from what we can see. Can we restore it? Wait and see!


A dyma Rosie's! Os oes rhywun yn cofio rhywbeth am y siop yma hoffem yn fawr gael clywed. Mae'r arwydd yn hyfryd, wedi ei baentio a llaw. Dyddiau yma, mae rhan fwyaf o arwyddion yn cael eu creu ar gyfrifadur. Mae pawb yn gofyn da ni am gadw'r enw. Yr ateb yn anffodus yw 'na'! Sori, ond mae Rosie yn gorfod mynd. Dwi'n gwybod ei bod yn dlws a.y.b. ond 'Dylanwad' di'r enw newydd. Felly, gwnewch y mwyaf o Rosie tra mae hi'n dal efo ni.

Mae'n debyg mae 'drapers' oedd Rosie's ond y ffaith mwyaf rhyfeddol yn ol Wyn Meredith (ac mae gwybodaeth eang iawn o'r dref ganddo) yw bod Rosie's ar un tro, wedi ei leoli yn yr adeilad ble mae Dylanwad Da rwan, yn Ffordd Y Felin, sef (i'r rhai ohonnoch sydd ddim yn nabod y dref) ble mae'n bwyty ni wedi bod ers 24 mlynedd! Felly, rydym yn dilyn yr un llwybr yn ein datblygiad busnes a Rosie. Dwi'n gobeithio darganfod nesaf ei bod wedi mynd ymlaen i sefydlu Debenhams neu M&S.

And here's Rosie's! What a surprise this was, a beautiful hand painted sign rather than the computer generated ones that are now common. To all who are asking whether we are keeping the name, I'm afraid the answer is 'no'. Rosie is going to have to go. So make the most of her while you can. The new name will be simply 'Dylanwad'.

Apparently, this was a drapers but the most amazing fact we have discovered to date, thanks to the vast local knowledge of Wyn Meredith, is that Rosie's used to be located in Ffos Y Felin, where Dylanwad Da, our present restaurant business has been for 24 years! So we are following in the entrepreneurial footsteps of the great Rosie. I'm hoping to find out next that she went on to be a captain of industry, founding Debenhams or M&S.

Once again, if you can share any knowledge with us about this business, or Rosie herself, we would be very grateful.


Diolch i perchnogion  gwesty Y Meirionnydd, Mark a Nick am fod mor ffeind a dod a paned i ni yn ganol y llwch. Diolchgar iawn i'n cymdogion newydd.

Thank you Mark and Nick from Y Meirionnydd Hotel (our neighbours on that street) for supplying us with much needed coffee on the day.