Hen bryd i gael post arall ar y blog gweld bod fy ffrind Jane wedi rhoi hwb bach i mi ac atgoffa mod yn araf braidd gyda'r nesaf! Diolch Jane, mae hwn i ti! Hefyd mae Dylan wedi mynd i Ffrainc i chwilio am win (mond newydd ddod yn ol o'r Eidal mae o! Da chi'n medru gweld pwy di'r Cinderella o'r bartneriaeth yma mae'n siwr!)
Erbyn hyn, rydym wedi chwalu popeth sy'n bosib i'w gael gwared ohonno ac yn aros i gynlluniau gyrraedd a cael eu trafod gyda'r Parc Cenedlaethol. Cawsom sgwrs fuddiol iawn rhyw bythefnos yn ol gyda dau aelod o'r Parc ac mae'n edrych yn debyg ein bod yn meddwl yr un ffordd am beth dyle fod yn digwydd i'r adeilad, sy'n newyddion da!
Mae'r lle yn ddiddorol dros ben gyda rhai darnau hen iawn yn y cefn ond mae na bethau wedi cuddio hefyd. Gwelwch y llun cyntaf, dyma ble roedd cegin fach i staff wneud te ac yn y blaen. Dechreuodd Dylan a minnau dynu'r cypyrddau ffwrdd a sylwais gyntaf ar y llawr bod llechen yno. 'Mae hwn fel stepen ddrws,' dwedais wrth Dylan yn meddwl dim ohonno.
About time for a new post as my dear and attentive friend Jane pointed out! Also, Dylan has gone (having only just arrived back from Italy I hasten to add, you can see who the Cinderella of this partnership is can't you?) on a French wine finding mission for a few days, so here we go.
By now we have cleared the whole building and are simply waiting for the plans to be approved and to make changes necessary. A meeting with officials from the Snowdonia National Park was very productive and I think our aims are the same for the building, which is good news. It was great to see how excited they were about the the place, especially the old floor on the first floor and the reflection of different eras that can be seen.
It is still yielding a few surprises. The kitchen area for staff on the ground floor needed to go, so Dylan and I went about demolishing it (we're good at that!) only to see a slab of slate under the kitchen unit. I mentioned it looked like a doorstep, only to find it was a doorstep on further exposure! Complete with stained glass panels. It obviously used to lead outside, now it leads to a brick wall.
Dyma'r hen gegin staff/The old staff kitchen
Wedyn, ar ol tynu un neu ddau o ddarnau eraill, edrychwch beth oedd yna! Drws cyfa! Mae'n edrych yn debyg mae drws yn mynd syth allan i'r stryd oedd hwn. Mae'n hollol gyfa ond wal frics sydd yr ochr arall iddo!
A dyma oedd tu nol iddo! And this is what was behind it!
Un peth arall dawsom ar ei draws oedd yr arwydd yma. Tra roedd Dylan yn cael gwared o sbwriel o rhyw dwll arall, daeth o hyd i hwn wedi ei ddefnyddio i gau bwlch. Dwi wedi holi o gwmpas y dref, yn cynnwys y teulu Walker ond heb gael unrhyw wybodaeth am Mr Walker. Oes rhywun allan 'na efo syniadau neu gwybodaeth am hyn?
Another little puzzle was this brass plaque Dylan found blocking a hole in the floor. We've asked around Dolgellau and even enquired with the local Walker family but no joy. Does anyone think they know anything about Mr Walker? Please get in touch if you think you do.